Y Pwyllgor  Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

9 Mawrth 2015

 

 

 

CLA494 -  Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

Gweithdrefn:
 Cadarnhaol

 

Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 yn gwneud darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â’r cynllun pensiwn gwasanaethau cyhoeddus newydd ar gyfer diffoddwyr tân o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 a Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.